
Book online

Make a booking online in our easy to use online booking system!
Email newsletter

Sign up to get news on our special offers & what’s on in the area
What’s on?

Good food, great music, find out what’s on in Stable’s Bistro Bar
Gwestai Gogledd Cymru
Croeso i Westy’r Royal Oak / Y Dderwen Frenhinol ym Metws y Coed
Gwyliau bach ... i gerdded erwau Eryri neu ymlacio mewn moethusrwydd.
Mae Gwesty’r Royal Oak yn adeilad hardd a oedd yn arfer â bod yn dafarn coets fawr. Mae ein hystafelloedd moethus a modern wedi eu cynllunio i ategu naws y bensaernïaeth Fictoraidd.
Ewch i dudalen yr ystafelloedd i chi gael cipolwg arnyn nhw!
Mae digon o ddewis o lefydd bwyta yn y gwesty ac yn y Stablau. Mae gennym ni hefyd sba hamdden yn ein chwaer westy sydd ond ychydig funudau i ffwrdd. Mae popeth sydd ei angen arnoch chi i ymlacio o fewn eich cyrraedd. Ac os ydych chi’n un am siopa, beth am fynd i siop Anna Davies lle gewch chi bob math o ddillad a nwyddau diddorol, cofroddion ac anrhegion?
A pheidiwch ag anghofio fod mynyddoedd a thraethau Eryri ar garreg y drws!
Mae’r gwesty yng nghanol y pentref gyda golygfeydd gwych o Eryri ac afon Llugwy. Mae ymwelwyr yn dod o bob cwr o’r byd i Fetws-y-Coed, y lle delfrydol ar gyfer ymweld ag Eryri a gogledd Cymru.
Mae gennym ni hefyd ddau fwthyn moethus hunanarlwyo – i wybod mwy, ewch i wefan Coedfa Cottages.
Ers Ebrill yr 2il 2007 mae pob ystafell a man cyhoeddus yn y gwesty yn ardal ddi-fwg ...
